1 Pan oedd Ahas wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg dwy o flynyddoedd daeth Hoshea fab Ela yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am naw mlynedd.
2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond doedd e ddim mor ddrwg â'r brenhinoedd oedd wedi bod o'i flaen.
3 Dyma Shalmaneser, brenin Asyria, yn ymosod arno. Felly dyma Hoshea yn dod yn was i frenin Assyria a dechrau talu trethi iddo.
4 Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar.
5 Wedyn dyma frenin Asyria'n ymosod ar wlad Israel. Aeth i Samaria a bu'n gwarchae arni am bron ddwy flynedd.
6 Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.