26 Dwedwyd wrth frenin Asyria, “Dydy'r bobloedd rwyt ti wedi eu symud i drefi Samaria ddim yn gwybod defodau duw'r wlad. Felly mae e wedi anfon llewod atyn nhw, ac mae'r rheiny yn eu lladd nhw.”
27 A dyma frenin Asyria yn gorchymyn: “Anfonwch un o'r offeiriaid gafodd eu cymryd oddi yno yn ôl. Bydd e'n gallu byw gyda nhw a'u dysgu nhw beth mae duw'r wlad yn ei ddisgwyl.”
28 Felly dyma un o'r offeiriaid oedd wedi cael ei gymryd o Samaria yn mynd yn ôl yno. Roedd yn byw yn Bethel ac yn dysgu'r bobl sut i barchu'r ARGLWYDD.
29 Ac eto roedd y gwahanol bobloedd yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw.
30 Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima
31 a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech.
32 Ond roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny.