30 Dyma'r bobl o Babilon yn gwneud eilun o Swccoth-benoth, pobl Cwth yn gwneud Nergal, pobl Chamath yn gwneud Ashima
31 a'r Afiaid yn gwneud Nibchas a Tartac. Roedd pobl Seffarfaîm yn llosgi eu plant yn aberth i'w duwiau, Adram-melech ac Anam-melech.
32 Ond roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny.
33 Felly roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ac yn gwasanaethu eu duwiau eu hunain ar yr un pryd – ac yn cadw defodau'r gwledydd o lle roedden nhw'n dod.
34 Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo.
35 Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud ymrwymiad gyda nhw, a rhoi'r gorchymyn yma iddyn nhw: “Peidiwch addoli duwiau eraill. Peidiwch plygu o'u blaen, eu gwasanaethu nac aberthu iddyn nhw.
36 Dim ond fi, yr ARGLWYDD dych chi i'w addoli. Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft gyda nerth a grym mawr. Fi ydy'r un dych chi i'w addoli ac aberthu anifeiliaid iddo.