6 Roedd Hoshea wedi bod yn frenin am naw mlynedd pan gafodd Samaria ei choncro. Aeth brenin Asyria â'r bobl yn gaethion i'w wlad ei hun. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.
7 Roedd hyn wedi digwydd am fod pobl Israel wedi bod yn anufudd i'r ARGLWYDD eu Duw – y Duw oedd wedi eu rhyddhau nhw o afael y Pharo a dod â nhw allan o'r Aifft. Roedden nhw wedi troi i addoli duwiau eraill
8 a dilyn arferion y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. Roedden nhw wedi dilyn esiampl brenhinoedd Israel.
9 Roedden nhw'n gwneud pethau o'r golwg oedd yn gwbl groes i ffordd yr ARGLWYDD. Roedden nhw wedi adeiladu allorau lleol ym mhobman – yn y pentrefi bychain a'r trefi caerog mawr.
10 Roedden nhw hefyd yn codi colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera wrth yr allorau lleol oedd ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
11 Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar yr allorau lleol, yn union fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'u blaenau nhw. Roedd y pethau drwg yma yn gwneud i'r ARGLWYDD ddigio.
12 Roedden nhw'n addoli eilunod ffiaidd er bod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio.