13 Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda, a'u dal nhw.
14 A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda.
15 Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.
16 Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.
17 Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr.
18 Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.
19 Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?