14 A dyma Heseceia, brenin Jwda, yn anfon y neges yma at frenin Asyria, oedd yn Lachish: “Dw i wedi bod ar fai. Os gwnei di droi'n ôl, gwna i dalu faint bynnag wyt ti'n ei ofyn.” A dyma frenin Asyria yn rhoi dirwy o naw mil cilogram o arian a naw cant cilogram o aur i Heseceia, brenin Jwda.
15 Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.
16 Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.
17 Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr.
18 Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.
19 Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?
20 Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?