15 Felly dyma Heseceia'n rhoi'r holl arian oedd yn y deml ac yn storfa'r palas i Asyria.
16 Dyna pryd wnaeth e stripio'r aur oedd e wedi ei roi ar ddrysau'r deml a'u fframiau, i dalu brenin Asyria.
17 Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr.
18 Yna dyma nhw'n galw ar y brenin. Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w cyfarfod, gyda Shefna yr ysgrifennydd a Ioach fab Asaff, y cofnodydd.
19 Dyma brif swyddog Assyria yn dweud wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus?
20 Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i?
21 Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni! Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft.