5 Roedd Heseceia'n trystio'r ARGLWYDD, Duw Israel. Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo yn Jwda, o'i flaen nac ar ei ôl.
6 Roedd yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ac yn cadw'r gorchmynion roddodd yr ARGLWYDD i Moses.
7 Roedd yr ARGLWYDD gydag e, ac roedd yn llwyddo beth bynnag roedd e'n ei wneud. Gwrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria a gwrthod ei wasanaethu.
8 A concrodd wlad y Philistiaid yn llwyr – o'r pentrefi lleiaf i'r trefi caerog mawr. Roedd yn rheoli'r wlad yr holl ffordd i dref Gasa a'r ardaloedd o'i chwmpas.
9 Yn ystod pedwaredd flwyddyn Heseceia fel brenin (a seithfed flwyddyn Hoshea fab Ela fel brenin ar Israel) daeth Shalmaneser, brenin Asyria, ac ymosod ar Samaria. Buodd yn gwarchae arni
10 am bron ddwy flynedd cyn llwyddo i'w choncro hi. Felly cafodd Samaria ei choncro yn ystod chweched flwyddyn Heseceia fel brenin, a nawfed blwyddyn Hoshea yn frenin ar Israel,
11 a dyma frenin Asyria yn cymryd pobl Israel yn gaethion i Asyria. Anfonodd rai i fyw i dref Halach, eraill i fyw ar lan Afon Chabor yn Gosan, ac eraill eto i drefi Media.