1 Pan glywodd y brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo ei ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.
2 A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.
3 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Dyma mae Heseceia'n ddweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.
4 Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”
5 Pan aeth gweision y brenin Heseceia at Eseia,
6 dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort ar fy mhen i dy ddychryn di.