14 Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.
15 Yna dyma Heseceia'n gweddïo:“O ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y ceriwbiaid. Ti sydd Dduw, yr unig un, dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu y bydysawd a'r ddaear.
16 O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
17 ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,
18 ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.
19 Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”
20 Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,