18 ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi eu cerfio gan bobl, i'w haddoli.
19 Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, plîs achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig Dduw go iawn.”
20 Dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia:“Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i wedi clywed dy weddi di am Senacherib, brenin Asyria,
21 a dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn:Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di!Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben di!Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phentu ôl i dy gefn di.
22 Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio?Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais,ac yn troi dy lygaid yn sarhaus?Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
23 Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyri enllibio'r Meistr, a dweud,‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen idringais i ben y mynyddoedd uchaf,ac i ben draw Libanus.Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf,a'r coed pinwydd gorau,er mwyn cyrraedd copa uchafy llechweddau coediog.
24 Dw i wedi cloddio ffynhonnauac yfed dŵr mewn lleoedd estron.Sychais holl ganghennau'r Afon Nilhefo gwadn fy nhraed.’