27 Dw i'n gwybod popeth amdanat ti– dy symudiadau di i gyd,a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
28 Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i,a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug,dw i'n mynd i roi bachyn trwy dy drwyn dia ffrwyn yn dy geg di;a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost ti.”
29 “A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir:Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni,a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw.Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi,plannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth nhw.
30 Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôlyn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
31 Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem;y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.
32 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria:‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi;fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian,nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
33 Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd daeth e.Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma’—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.