34 ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma,er mwyn cadw fy enw da,ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
35 A'r noson honno dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.
36 Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.
37 Pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma ei feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.