7 Dw i'n mynd i godi ofn arno fe.Bydd e'n clywed si am rywbethac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun.Bydda i'n gwneud iddo gael ei laddgan y cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
8 Yn y cyfamser roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.
9 Roedd wedi clywed fod y brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:
10 “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.
11 Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?
12 Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – beth am Gosan, Haran, Retseff, a pobl Eden oedd yn Telassar?
13 Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”