10 Dyma Elias yn ateb, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n mynd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”
11 Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt.
12 Roedd Eliseus yn ei weld, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Welodd e mohono fe wedyn. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.
13 Yna dyma fe'n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan yr Afon Iorddonen.
14 Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy'r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi gadael hefyd?” Yna dyma fe'n taro'r dŵr gyda'r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy'r afon, a croesodd Eliseus i'r ochr arall.
15 Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw'n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw'n mynd ato a plygu i lawr o'i flaen.
16 “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma,” medden nhw. “Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi ei ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.”Dyma Eliseus yn ateb, “Na, peidiwch a'u hanfon nhw.”