3 Dyma aelodau o urdd proffwydi Bethel yn dod allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
4 Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.
5 Dyma aelodau o urdd proffwydi Jericho yn mynd at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?”“Ydw, dw i'n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
6 Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.
7 Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.
8 Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych.
9 Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?”“Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.