6 Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.
7 Roedd pum deg aelod o'r urdd o broffwydi wedi eu dilyn nhw, a pan oedd y ddau yn sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell.
8 Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a'i rholio, a taro'r dŵr gyda hi. Dyma lwybr yn agor drwy'r afon, ac dyma'r ddau yn croesi drosodd ar dir sych.
9 Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?”“Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.
10 Dyma Elias yn ateb, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di'n fy ngweld i'n mynd i ffwrdd, fe'i cei. Os ddim, gei di ddim.”
11 Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a dyma Elias yn cael ei gipio i fyny i'r nefoedd gan y chwyrlwynt.
12 Roedd Eliseus yn ei weld, a dyma fe'n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!” Welodd e mohono fe wedyn. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a'u rhwygo'n ddau.