13 Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!
14 Yna dyma'r proffwyd Eseia yn mynd at y brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw o wlad bell iawn – o Babilon.”
15 Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” a dyma Heseceia'n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.”
16 A dyma Eseia'n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD:
17 ‘Edrych! Mae'r amser yn dod pan fydd popeth sy'n dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai'r ARGLWYDD.
18 ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”
19 Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”