18 ‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’”
19 Dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae'r neges rwyt ti wedi ei rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Roedd e'n meddwl, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i'n fyw.”
20 Mae gweddill hanes Heseceia, ei lwyddiant milwrol a'r ffaith iddo adeiladu'r gronfa ddŵr a'r sianel i gario dŵr i'r ddinas, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
21 Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.