7 Yna dyma Eseia'n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi eu gwasgu a'i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.”
8 Roedd Heseceia wedi gofyn i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i'n mynd i fyny i'w deml y diwrnod ar ôl fory?”
9 Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma'r arwydd mae'r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae'n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i'r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’”
10 A dyma Heseceia'n ateb, “Mae'n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?”
11 Yna dyma'r proffwyd Eseia'n gweddïo, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i'r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.
12 Tua'r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl.
13 Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!