1 Un deg dwy flwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Hefftsiba.
2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'r wlad o flaen Israel.
3 Roedd wedi ailgodi'r allorau lleol gafodd eu dinistrio gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i Baal a polion i'r dduwies Ashera, fel roedd y brenin Ahab wedi gwneud yn Israel. Roedd yn plygu i lawr i'r sêr ac yn eu haddoli nhw.
4 Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Dw i am osod fy enw yn Jerwsalem.”