12 Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored.
13 Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered.
14 Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion.
15 Mae hyn am eu bod wedi gwneud pethau drwg, ac wedi fy nigio i, o'r diwrnod y daeth eu hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw!”
16 Ar ben popeth arall roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ar bob stryd yn Jerwsalem! Hyn heb sôn am y ffaith ei fod wedi arwain pobl Jwda i bechu a gwneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
17 Mae gweddill hanes Manasse, a'r pethau wnaeth e gyflawni, (gan gynnwys yr holl bethau drwg wnaeth e), i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
18 Pan fuodd Manasse farw, cafodd ei gladdu yng ngardd y palas, sef gardd Wssa. A dyma Amon, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.