16 Ar ben popeth arall roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ar bob stryd yn Jerwsalem! Hyn heb sôn am y ffaith ei fod wedi arwain pobl Jwda i bechu a gwneud pethau oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
17 Mae gweddill hanes Manasse, a'r pethau wnaeth e gyflawni, (gan gynnwys yr holl bethau drwg wnaeth e), i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
18 Pan fuodd Manasse farw, cafodd ei gladdu yng ngardd y palas, sef gardd Wssa. A dyma Amon, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
19 Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. Enw ei fam oedd Meshwlemeth (merch Charwts o Iotba).
20 Gwnaeth yntau bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse.
21 Roedd yn ymddwyn fel ei dad ac yn gwasanaethu ac addoli'r un eilunod ffiaidd.
22 Roedd wedi troi ei gefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac wedi gwrthod ei ddilyn.