4 Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle'r roedd ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Dw i am osod fy enw yn Jerwsalem.”
5 Cododd allorau i'r sêr yn y ddwy iard yn y deml.
6 Llosgodd ei fab yn aberth, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth ac yn darogan. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a pobl oedd yn siarad â'r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a'i bryfocio.
7 Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o'r dduwies Ashera a'i gosod yn y deml! – y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Dafydd a'i fab Solomon amdano, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i'n byw yn y deml yma am byth.
8 Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.”
9 Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!
10 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud drwy ei broffwydi: