8 Wna i ddim gyrru Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'w hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith wnaeth fy ngwas Moses ei rhoi iddyn nhw.”
9 Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!
10 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud drwy ei broffwydi:
11 “Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd.
12 Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddod â dinistr ar Jerwsalem a Jwda. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored.
13 Dw i'n mynd i wneud i Jerwsalem beth wnes i i Samaria ac i linach Ahab. Bydda i'n sychu Jerwsalem yn lân fel mae rhywun yn sychu dysgl a'i throi hi wyneb i waered.
14 Bydda i'n gwrthod y rhai sydd ar ôl o'm pobl, a'u rhoi nhw i'w gelynion. Byddan nhw fel ysbail i'w gasglu a gwobrau rhyfel i'w gelynion.