1 Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iedida (merch Adaia o Botscath).
2 Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
3 Pan oedd Joseia wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd, dyma fe'n anfon ei ysgrifennydd, Shaffan (mab Atsaleia ac ŵyr Meshwlam), i deml yr ARGLWYDD.
4 Dyma fe'n dweud wrtho, “Dos at Chilceia, yr archoffeiriad. Mae i gyfri'r arian mae'r porthorion wedi ei gasglu gan y bobl pan maen nhw'n dod i'r deml.
5 Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio,
6 sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig wedi eu naddu'n barod i atgyweirio'r deml.
7 Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”