13 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi'r ARGLWYDD, ar fy rhan i a phobl Jwda i gyd, am beth mae'r sgrôl yma'n ddweud. Mae'r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb wneud beth mae'r sgrôl yma'n ddweud.”
14 Felly dyma Chilceia, Achicam, Achbor, Shaffan ac Asaia yn mynd at y broffwydes Hulda. Roedd hi'n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Charchas) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi'n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o'r ddinas. A dyma nhw'n dweud yr hanes wrthi.
15 Dyma hi'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i,
16 fy mod i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma, ac ar y bobl sy'n byw yma. Bydd yn union fel mae'r sgrôl mae brenin Jwda wedi ei ddarllen yn dweud.
17 Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'm gwylltio i gyda'r delwau maen nhw wedi eu gwneud.’
18 Dwedwch wrth frenin Jwda, sydd wedi'ch anfon chi i holi'r ARGLWYDD, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi ei glywed:
19 “Am dy fod ti wedi teimlo i'r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio'r lle yma, ac y byddwn i'n eu gwneud nhw'n esiampl o bobl wedi eu melltithio, dyma ti'n rhwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen i, a dw i wedi gwrando,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.