5 Wedyn mae'r arian i'w roi i'r rhai sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml. Ac mae'r rheiny i dalu'r gweithwyr sy'n gwneud y gwaith atgyweirio,
6 sef y seiri coed, adeiladwyr a'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig wedi eu naddu'n barod i atgyweirio'r deml.
7 Does dim rhaid cadw cyfrifon manwl o'r arian fydd yn cael ei roi iddyn nhw, am eu bod yn weithwyr gonest.”
8 Dyma Chilceia, yr archoffeiriad, yn dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o'r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe'n rhoi'r sgrôl i Shaffan, iddo ei darllen.
9 Yna dyma Shaffan yn mynd i roi adroddiad yn ôl i'r brenin: “Mae dy weision wedi cyfri'r arian oedd yn y deml, ac wedi ei drosglwyddo i'r dynion sy'n goruchwylio'r gwaith ar y deml.”
10 Yna dyma fe'n dweud, “Mae Chilceia'r offeiriad wedi rhoi sgrôl i mi.” A dyma fe'n ei darllen i'r brenin.
11 Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma'r brenin yn rhwygo ei ddillad.