9 Doedd offeiriaid yr allorau lleol ddim yn cael gwasanaethu wrth allor yr ARGLWYDD yn Jerwsalem. Ond roedden nhw yn cael bwyta'r bara heb furum ynddo gyda'u cyd-offeiriaid.
10 Dyma fe'n difetha'r Toffet oedd yn nyffryn Ben-hinnom, rhag i neb losgi ei fab neu ferch yn aberth i'r duw Molech.
11 A dyma fe'n cael gwared â'r ceffylau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu cysegru i'r haul (roedden nhw yn yr iard, wrth y fynedfa i'r deml, wrth ymyl tŷ Nathan-melech, swyddog y palas), a llosgi cerbydau'r haul.
12 Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi eu hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i ddyffryn Cidron.
13 Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi eu hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon).
14 Dyma Joseia'n malu'r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a gwasgaru esgyrn dynol lle roedden nhw'n arfer bod.
15 Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi ei chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera.