2 Dyma'r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei weision y proffwydi.
3 Does dim amheuaeth mai'r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o'i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi eu gwneud.
4 Roedd wedi lladd pobl ddiniwed – roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny.
5 Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
6 Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
7 Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i Afon Ewffrates.
8 Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem).