8 Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem).
9 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o'i flaen.
10 Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem.
11 Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad.
12 A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
13 Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.
14 A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel – deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.