19 Yn sydyn dyma fe'n gweiddi ar ei dad, “O, fy mhen! Mae fy mhen i'n brifo.”Dyma'r tad yn dweud wrth un o'r gweision, “Dos ag e at ei fam.”
20 Dyma hwnnw'n ei gario yn ôl at ei fam, a bu'n eistedd ar ei glin drwy'r bore. Ond yna ganol dydd dyma fe'n marw.
21 Dyma hi'n ei gario i fyny i lofft y proffwyd, a'i roi i orwedd ar y gwely.Yna dyma hi'n mynd allan
22 a galw ar ei gŵr, “Dw i angen mynd i weld y proffwyd. Gad i mi gael un o'r gweision ac asen i mi fynd i'w weld ar frys ac yna dod yn ôl.”
23 “Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.”“Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai.
24 Ar ôl i'r asen gael ei chyfrwyo, dyma hi'n dweud wrth y gwas, “Tyrd, gad i ni fynd yn gyflym. Paid arafu oni bai fy mod i'n dweud wrthot ti.”
25 Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd.Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw.