32 Pan gyrhaeddodd Eliseus y tŷ, dyna lle roedd y bachgen yn gorwedd yn farw ar ei wely.
33 Dyma fe'n cau'r drws tu ôl iddo a gweddïo ar yr ARGLWYDD.
34 Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.
35 Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.
36 Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.”
37 Dyma hi'n syrthio ar ei gliniau wrth ei draed. Yna dyma hi'n codi ei mab a mynd allan.
38 Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.”