8 Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.
9 Roedd y wraig wedi bod yn siarad gyda'i gŵr, “Gwranda, dw i'n siŵr fod y dyn sy'n galw heibio yma o hyd yn broffwyd arbennig – yn ddyn sanctaidd iawn.
10 Gad i ni wneud llofft fach ar y to, a rhoi gwely a bwrdd a chadair a lamp yno. Wedyn pan fydd e'n galw heibio, bydd ganddo le i aros.”
11 Felly pan alwodd heibio'r tro wedyn, dyma Eliseus yn aros yn y llofft.
12 Dwedodd wrth Gehasi, ei was, am alw'r wraig. A dyma hi'n dod ato.
13 Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?”Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”
14 Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?”A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.”