19 A dyma Eliseus yn dweud, “Dos adre'n dawel dy feddwl.”Doedd Naaman ddim wedi mynd yn bell,
20 pan feddyliodd Gehasi, gwas y proffwyd Eliseus: “Mae fy meistr wedi gwneud pethau'n rhy hawdd i Naaman y Syriad drwy wrthod derbyn beth roedd yn ei gynnig iddo. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n mynd ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”
21 Felly dyma fe'n brysio ar ôl Naaman.Pan welodd Naaman rywun yn rhedeg ar ei ôl, dyma fe'n dod i lawr o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “Ydy popeth y iawn?”
22 A dyma Gehasi yn dweud, “Ydy, mae popeth yn iawn. Mae fy meistr wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o fryniau Effraim. Plîs wnei di roi tri deg cilogram o arian a dau set o ddillad iddyn nhw?”
23 “Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.
24 Wedi iddyn nhw gyrraedd y bryn, dyma Gehasi'n cymryd yr arian a'r dillad ganddyn nhw a'i cuddio nhw yn y tŷ. Yna dyma fe'n anfon y dynion i ffwrdd.
25 Pan aeth Gehasi at ei feistr, dyma Eliseus yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi bod i rywle Gehasi?”A dyma fe'n ateb, “Na, dw i ddim wedi bod i unman yn arbennig.”