25 O ganlyniad doedd dim bwyd yn Samaria. Roedd y sefyllfa mor ddrwg nes bod pen asyn yn costio wyth deg o ddarnau arian, a powlen fach o dail colomennod yn costio pum darn arian.
26 Pan oedd brenin Israel yn cerdded ar waliau'r dref, dyma rhyw wraig yn gweiddi arno, “O frenin, syr, helpa fi!”
27 Ond dyma fe'n ateb, “Na, rhaid i'r ARGLWYDD dy helpu di. Sut alla i dy helpu di? Mae'r llawr dyrnu a'r cafn gwin yn wag!”
28 Wedyn dyma'r brenin yn gofyn iddi “Beth sy'n bod?”A dyma hi'n ateb, “Roedd y wraig yma wedi dweud wrtho i, ‘Rho dy fab di i ni ei fwyta heddiw, a gwnawn ni fwyta fy mab i yfory.’
29 Felly dyma ni'n berwi fy mab i, a'i fwyta. Yna'r diwrnod wedyn dyma fi'n dweud wrthi, ‘Tyrd â dy fab di i ni gael ei fwyta fe nawr.’ Ond roedd hi wedi cuddio ei mab.”
30 Pan glywodd y brenin hyn dyma fe'n rhwygo ei ddillad. Gan ei fod yn cerdded ar y waliau, roedd pawb yn gallu gweld ei fod e'n gwisgo sachliain oddi tanodd.
31 A dyma'r brenin yn dweud, “Boed i Dduw ddial arna i os bydd pen Eliseus yn dal ar ei ysgwyddau erbyn diwedd y dydd!”