10 Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Samaria a galw ar y wylwyr y giatiau, “Dŷn ni wedi bod i wersyll byddin Syria, a doedd yna neb yno o gwbl. Glywon ni'r un siw na miw. Ond roedd y ceffylau a'r asynnod yno wedi eu clymu, a'r pebyll yn dal i sefyll.”
11 A dyma'r gwylwyr yn pasio'r neges ymlaen i balas y brenin.
12 Cododd y brenin o'i wely a dweud wrth ei swyddogion, “Ddweda i wrthoch chi beth mae Syria'n ei wneud. Maen nhw'n gwybod fod newyn yma, ac maen nhw wedi gadael y gwersyll a mynd i guddio i gefn gwlad. Maen nhw'n disgwyl i ni fynd allan i chwilio am fwyd, a wedyn byddan nhw'n ein dal ni, ac yn dod i mewn i'r ddinas.”
13 Ond dyma un o'r swyddogion yn awgrymu, “Gad i ni ddewis pump o'r ceffylau sydd ar ôl, ac anfon dynion allan i weld beth sy'n digwydd. Os cân nhw eu lladd, fydd hynny ddim gwaeth na beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl Israel i gyd os arhoswn ni yma – mae hi wedi darfod arnon ni i gyd.”
14 Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd.
15 Aethon nhw ar eu holau cyn belled â'r Afon Iorddonen. (Roedd dillad a taclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) A dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin.
16 Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd ARGLWYDD wedi dweud.