2 Brenhinoedd 7:14-20 BNET

14 Felly dyma nhw'n cymryd dau gerbyd rhyfel, a dyma'r brenin anfon dynion ar ôl byddin Syria i weld beth oedd yn digwydd.

15 Aethon nhw ar eu holau cyn belled â'r Afon Iorddonen. (Roedd dillad a taclau o bob math ar lawr ym mhobman ar y ffordd, wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys.) A dyma'r sgowtiaid yn mynd yn ôl i ddweud wrth y brenin.

16 Wedyn aeth pobl Samaria allan i wersyll byddin Syria a helpu eu hunain i beth bynnag roedden nhw'n dod o hyd iddo. A daeth hi'n wir fod un darn arian yn ddigon i brynu sachaid o flawd mân neu ddwy lond sach o haidd, yn union fel roedd ARGLWYDD wedi dweud.

17 Roedd y brenin wedi anfon ei brif gynorthwywr i reoli pethau wrth giât y ddinas. Ond wrth i'r dyrfa ruthro allan, cafodd ei sathru dan draed a bu farw. Roedd hyn hefyd wedi digwydd yn union fel roedd Eliseus, proffwyd yr ARGLWYDD, wedi dweud pan oedd y brenin wedi ceisio ei arestio.

18 Neges y proffwyd i'r brenin oedd, “Bydd un darn arian yn ddigon i brynu dwy lond sach o haidd neu sachaid o flawd mân! Bydd hyn yn digwydd yr adeg yma fory, yn y farchnad wrth giât Samaria.”

19 Ond roedd swyddog agosa'r brenin, ei brif gynorthwywr, wedi ateb proffwyd Duw, “Hyd yn oed petai'r ARGLWYDD yn agor llifddorau'r awyr iddi lawio ar y ddaear, allai hynny byth digwydd!” Ac roedd Eliseus wedi ateb, “Cei weld y peth â dy lygaid dy hun, ond gei di ddim bwyta dim ohono.”

20 A dyna'n union oedd wedi digwydd. Roedd e wedi cael ei sathru dan draed a marw wrth giât y ddinas.