14 A dyma fe'n gadael Eliseus a mynd yn ôl at ei feistr. Pan ofynnodd hwnnw iddo, “Beth ddwedodd Eliseus wrthot ti?” Dyma fe'n ateb, “Dwedodd dy fod ti'n bendant yn mynd i wella.”
15 Ond y diwrnod wedyn, dyma Hasael yn cymryd blanced a'i gwlychu, ac yna ei rhoi dros wyneb Ben-hadad a'i fygu. Felly bu farw Ben-hadad, a dyma Hasael yn dod yn frenin yn ei le.
16 Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda.
17 Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.
18 Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
19 Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
20 Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.