24 Pan fuodd Jehoram farw cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Ahaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
25 Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel am un deg dwy o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia, mab Jehoram, ei wneud yn frenin ar Jwda.
26 Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel.
27 Roedd yn ymddwyn fel Ahab a'i deulu. Roedd yn perthyn iddo trwy briodas, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
28 Ymunodd gyda Joram, mab Ahab, i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr,
29 ac aeth yn ôl i Jesreel i geisio gwella o'i glwyfau. Aeth Ahaseia, brenin Jwda, yno i ymweld ag e, achos roedd e'n wael iawn.