6 Dyma'r brenin yn ei holi hi, a dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Yna dyma fe'n penodi swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho ei heiddo i gyd yn ôl iddi; a hefyd gynnyrch y tir am y cyfnod y buodd hi i ffwrdd.”
7 Dyma Eliseus yn mynd i Damascus, prifddinas Syria. Roedd Ben-hadad, brenin Syria yn sâl. Pan ddwedon nhw wrth y brenin fod proffwyd Duw wedi cyrraedd,
8 dyma'r brenin yn dweud wrth Hasael, ei swyddog, “Dos i weld y proffwyd, a dos â rhodd gyda ti. Gofyn iddo holi'r ARGLWYDD os bydda i yn gwella o'r salwch yma.”
9 Felly, dyma Hasael yn mynd i weld y proffwyd, gyda rhodd iddo – pethau gorau Damascus wedi eu llwytho ar bedwar deg o gamelod. Dyma fe'n sefyll o'i flaen a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad, brenin Syria, eisiau gwybod fydd e'n gwella o'r salwch yma?”
10 Dyma Eliseus yn ateb, “Dos a dywed wrtho, ‘Rwyt ti'n bendant yn mynd i wella.’ Ond mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd e'n marw.”
11 Roedd Eliseus yn syllu ar Hasael, nes iddo ddechrau teimlo'n anghyfforddus. Yna dyma'r proffwyd yn dechrau crïo.
12 Dyma Hasael yn gofyn iddo, “Pam wyt ti'n crïo, syr?”A dyma Eliseus yn ateb, “Am mod i'n gwybod y niwed wyt ti'n mynd i'w wneud i bobl Israel. Ti'n mynd i losgi'n trefi ni a lladd ein dynion ifanc yn y rhyfel. Byddi'n curo'n plant bach i farwolaeth, ac yn rhwygo'r gwragedd beichiog yn agored.”