12 “Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dywed wrthon ni beth ddwedodd e.”Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’”
13 Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a pawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”
14 Felly dyma Jehw yn cynllwyn yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, brenin Syria.
15 Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.”
16 Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Dyna hefyd pryd roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram.)
17 Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!”Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.”
18 Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’”Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.”