5 Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai.A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?”“I ti, syr,” meddai'r proffwyd.
6 Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Yna dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
7 Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a pawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.
8 Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab.Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel,sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.
9 “‘Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa.
10 Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd.
11 Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?”A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”