1 Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa.Ddwy flynedd cyn y daeargryn cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel.
2 Dyma ddwedodd Amos:“Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion,a'i lais yn taranu o Jerwsalem,nes bod porfa'r anifeiliaid yn gwywo,a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.”
3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.
4 Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.
5 Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,