12 dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman,a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”
13 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gileader mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw eu hunain.
14 Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr,pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm,
15 bydd eu brenin a'i holl swyddogionyn cael eu cymryd yn gaeth gyda'i gilydd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.