3 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Damascus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.
4 Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael,a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.
5 Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Gasa wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,
7 Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa,a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.
8 Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdoda'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon.Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron,nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!”—fy Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.
9 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyrdrwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth,a'u gwerthu nhw i wlad Edom,