1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Moab wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi cymryd esgyrn brenin Edoma'u llosgi nhw'n galch.
2 Felly bydda i'n anfon tân i losgi Moab,a dinistrio caerau amddiffynnol Cerioth.Bydd pobl Moab yn marw yn sŵn y brwydro,yng nghanol y bloeddio a sŵn y corn hwrdd yn seinio.
3 Bydda i'n cael gwared â'i brenin hiac yn lladd ei holl swyddogion gydag e.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae Jwda wedi pechu dro ar ôl tro,felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.Maen nhw wedi troi eu cefnau ar gyfraith yr ARGLWYDD,a heb gadw ei orchmynion e.Maen nhw'n cael eu harwain ar gyfeiliorngan y duwiau ffals oedd eu hynafiaid yn eu dilyn.