7 sathru'r tlawd fel baw ar lawr,a gwthio'r gwan o'r ffordd!Ac mae dyn a'i dad yn cael rhyw gyda'r un gaethferch,ac yn amharchu fy enw glân i wrth wneud y fath beth.
8 Maen nhw'n gorwedd wrth ymyl yr allorauar ddillad sydd wedi eu cadw'n warant am ddyled.Maen nhw'n yfed gwin yn nheml Duw –gwin wedi ei brynu gyda'r dirwyon roeson nhw i bobl!
9 Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! –yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw.Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr,o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!
10 Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aiffta'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd,ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!
11 Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydia rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid.Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12 “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin,ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!
13 Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl,fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bacham fod llwyth trwm o ŷd arni.