9 Ac eto, fi wnaeth ddinistrio'r Amoriaid o flaen eich hynafiaid chi! –yr Amoriaid oedd yn dal fel cedrwydd ac yn gryf fel coed derw.Ond dyma fi'n eu torri nhw i lawr yn llwyr,o'u brigau uchaf i'w gwreiddiau!
10 Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aiffta'ch arwain chi drwy'r anialwch am bedwar deg o flynyddoedd,ac yna rhoi tir yr Amoriaid i chi!
11 Dewisais rai o'ch plant i fod yn broffwydia rhai o'ch bechgyn ifanc i fod yn Nasareaid.Onid dyna ydy'r gwir, bobl Israel?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
12 “Ond bellach, dych chi'n gwneud i'r Nasareaid yfed gwin,ac yn dweud wrth y proffwydi am gau eu cegau!
13 Felly gwyliwch chi! Bydda i'n eich dal chi'n ôl,fel trol sydd ond yn gallu symud yn araf bacham fod llwyth trwm o ŷd arni.
14 Bydd y cyflymaf ohonoch chi yn methu dianc,a'r cryfaf yn teimlo'n hollol wan.Bydd y milwr yn methu amddiffyn ei hun,
15 a'r bwasaethwr yn methu dal ei dir.Bydd y rhedwr cyflyma'n methu dianc,a'r un sydd ar gefn ceffyl yn methu achub ei fywyd.