1 Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.
2 “O blith holl bobloedd y ddaear,chi ydy'r rhai wnes i ddewis –a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrifam yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”
3 Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilyddheb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4 Ydy llew yn rhuo yn y goedwigpan does ganddo ddim ysglyfaeth?Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffauoni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5 Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwydos nad oes abwyd yn y trap?Ydy trap ar lawr yn cau yn sydynheb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
6 Ydy pobl ddim yn dychryn yn y drewrth glywed y corn hwrddyn seinio fod ymosodiad?Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinasheb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?
7 Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim bydheb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.